Mae trydan wedi dod yn rhan o bron popeth rydym yn dibynnu arno, o wresogi ein cartrefi a rhedeg busnesau lleol i gadw ffonau wedi’u gwefru, cefnogi gofal iechyd, a galluogi pobl i weithio o gartref.
Cafodd llawer o rwydwaith trydan Abermaw ei adeiladu yn y 1960au. Er ei fod wedi gwasanaethu’r gymuned yn dda ers degawdau, mae’r ffordd rydym yn defnyddio trydan yn newid yn gyflym ac mae’r galw yn parhau i dyfu.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu cefnogi Abermaw yn y blynyddoedd i ddod, mae SP Energy Networks yn buddsoddi £1.5 miliwn mewn gwaith uwchraddio i gynyddu capasiti a gwella gwydnwch. Heb y buddsoddiad hwn, rhagwelir y bydd y rhwydwaith presennol yn cyrraedd ei gapasiti llawn erbyn 2028.
Bydd y prosiect yn cynnwys gosod ceblau tanddaearol newydd o dan rannau o’r dref. Mae’n anochel y bydd y gwaith hwn yn achosi aflonyddwch dros dro. Fodd bynnag, mae’n cael ei wneud er mwyn helpu i sicrhau bod Abermaw yn parhau i gael cyflenwad trydan dibynadwy sy’n gallu cefnogi cartrefi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus am ddegawdau i ddod.
Pam buddsoddi nawr?
Yn aml, mae angen ymgymryd â phrosiectau seilwaith mawr ymhell cyn i broblemau ddod i’r amlwg.
Nid y galw am drydan nawr yw’r her sy’n wynebu Abermaw, ond y galw amdano yn y dyfodol. Mae mwy o aelwydydd yn newid i system wresogi trydan, mae mwy o gerbydau yn cael eu pweru gan drydan, ac mae mwy o weithgareddau bob dydd nag erioed o’r blaen yn dibynnu ar gyflenwad trydan dibynadwy.
Mae buddsoddi nawr yn helpu i osgoi cyfyngiadau yn y dyfodol ac yn sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu parhau i gefnogi uchelgeisiau’r gymuned, yn hytrach na bod yn rhwystr iddynt.
Map llwybr y prosiect
Mae’r map isod yn dangos llwybr arfaethedig y ceblau a’r gwahanol gamau gwaith ar draws Abermaw.

Gwaith wedi’i gynllunio a chau ffyrdd
Bydd y gwaith, y disgwylir iddo ddechrau ym mis Hydref 2026, yn cynnwys gosod pibellau ceblau a cheblau trydan newydd ar hyd rhannau o’r rhwydwaith ffyrdd lleol.
Efallai y bydd y dyddiadau’n newid wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Bydd y tabl hwn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i ddangos yr wybodaeth ddiweddaraf.
| Ffordd | Mesurau traffig ac effaith | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen | Cam |
| Ffordd y Traeth | Cau ffordd gyda dargyfeiriad lleol – goleuadau traffig yn bosibl | 16 Hyd 2026 | 18 Hyd 2026 | Gosod pibellau |
| Rhodfa’r Môr | Cau ffordd gyda dargyfeiriad lleol – goleuadau traffig yn bosibl | 19 Hyd 2026 | 20 Tach 2026 | Gosod pibellau |
| Stryd y Brenin Edward | Cau ffordd gyda dargyfeiriad sylweddol ar hyd yr A470 | 16 Tach 2026 | 2 Rhag 2026 | Gosod pibellau |
| Ffordd y Parc | Mynediad cyfyngedig | 19 Hyd 2026 | 20 Tach 2026 | Gosod pibellau |
| Ffordd Mynach | Cau ffordd gyda dargyfeiriad lleol – goleuadau traffig yn bosibl | 30 Tach 2026 | 18 Rhag 2026 | Gosod pibellau |
Cau Stryd y Brenin Edward
Er mwyn gosod y seilwaith newydd yn ddiogel, bydd angen cau Stryd y Brenin Edward dros dro rhwng 16 Tachwedd a 2 Rhagfyr.
Rydym yn cydnabod mai dyma un o gamau’r prosiect fydd yn tarfu fwyaf ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae cau’r ffordd wedi’i gynllunio’n ofalus gyda Chyngor Gwynedd a’i amseru i osgoi’r cyfnod prysuraf o ran ymwelwyr â’r dref. Er nad yw’n bosibl osgoi cau ffordd ar gyfer y cam hwn o’r gwaith, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i’w gwblhau mor ddiogel ac effeithlon â phosibl.
Bydd llwybr dargyfeirio ag arwyddion ar hyd yr A470 ar waith trwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau. Mae’r llwybr dargyfeirio hwn i’w weld yn y llyfrgell ddogfennau isod, ochr yn ochr â manylion yr holl drefniadau rheoli traffig eraill.
Bydd gwaith ar ffyrdd eraill yn Abermaw yn digwydd cyn i’r ffordd gael ei chau ac ar ôl hynny, gan ddefnyddio goleuadau traffig dros dro a threfniadau rheoli traffig lleol eraill yn bennaf.
Wedi’i lunio gan adborth gan y gymuned
Y bobl sy’n adnabod Abermaw orau yw’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
Diolch i bawb a ddaeth i’n digwyddiadau gwybodaeth cymunedol ym mis Medi a Hydref. Mae’r cwestiynau, y pryderon a’r wybodaeth leol a rannwyd wedi cael dylanwad uniongyrchol ar y ffordd y mae’r prosiect yn cael ei gyflawni.
Nid yw’n bosibl dileu pob pryder, a bydd rhywfaint o tarfu yn anochel o hyd. Fodd bynnag, mae deall yr hyn sy’n bwysicaf i bobl leol yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell ynghylch sut mae’r gwaith yn cael ei gynllunio, ei gyfathrebu a’i gyflawni.
Byddwn yn parhau i wrando trwy gydol y prosiect ac yn edrych yn rheolaidd ar gyfleoedd i leihau effeithiau lle y bo’n ymarferol ac yn ddiogel i wneud hynny.
Bydd dogfen Cwestiynau Cyffredin sy’n mynd i’r afael â chwestiynau a godwyd yn ystod y digwyddiadau gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yma yn fuan. Bydd aelodau o dîm y prosiect yn parhau i fod yn weithgar yn yr ardal trwy gydol y gwaith, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf, gwrando ar adborth a sicrhau bod safbwyntiau lleol yn parhau i helpu i lunio’r ffordd rydym yn gweithredu wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Beth fydd y gwaith yn ei olygu?
Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau mewn tri phrif gam:
Cam 1: Gosod pibellau
Y prif gam adeiladu, yn cynnwys gwaith cloddio i osod pibellau tanddaearol (pibellau amddiffynnol) i’r ceblau newydd redeg drwyddynt. Fel arfer, dyma’r cam lle gwelir y lefelau uchaf o weithgarwch adeiladu, rheoli traffig a sŵn.
Cam 2: Gosod ceblau
Unwaith y bydd y pibellau yn eu lle, bydd y ceblau newydd yn cael eu tynnu drwodd a’u cysylltu mewn mannau mynediad arbenigol (joint bays). Mae’r gwaith yn fwy lleol fel arfer yn ystod y cam hwn, gyda threfniadau rheoli traffig a cherddwyr llai ymwthiol.
Cam 3: Adfer
Bydd y ffyrdd a’r llwybrau troed y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn cael eu hatgyweirio a’u dychwelyd i’w cyflwr blaenorol yn unol â gofynion priffyrdd.
Efallai y bydd angen i’n timau ddychwelyd i rai lleoliadau wrth i’r prosiect symud trwy’r camau hyn. Mae hyn yn rhan arferol o osod, cysylltu a phrofi seilwaith trydan newydd.
Rheoli aflonyddwch wrth wneud gwaith uwchraddio hanfodol
Mae unrhyw waith ffordd yn anghyfleus. Yr her yw cydbwyso’r aflonyddwch a achosir gan waith adeiladu yn y tymor byr â manteision hirdymor rhwydwaith trydan cryfach a mwy dibynadwy.
Gan weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a rhanddeiliaid lleol, rydym yn adolygu’r rhaglen yn barhaus i leihau’r effeithiau lle y bo modd, a chynnal diogelwch a sicrhau bod modd cwblhau’r gwaith yn effeithlon ar yr un pryd. Er enghraifft, roedd cynlluniau gwreiddiol y prosiect yn cynnwys cau Stryd y Brenin Edward am 6 wythnos, ond ar ôl gweithio gyda rhanddeiliaid, a’n contractwr, rydym yn gweithio i gwblhau’r rhan hon mewn tair wythnos.
Trwy gydol y prosiect:
- Bydd arwyddion clir i ddangos llwybrau rheoli traffig a llwybrau dargyfeirio.
- Bydd rhybudd ymlaen llaw yn cael ei roi cyn i newidiadau sylweddol gael eu gwneud.
- Bydd mynediad i drigolion a busnesau yn cael ei gynnal lle bynnag y bo modd.
- Bydd llwybrau i gerddwyr yn parhau i fod ar gael lle bynnag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
- Bydd y gwasanaethau brys, timau casglu gwastraff a sefydliadau lleol allweddol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
- Ni ddisgwylir unrhyw doriad i gyflenwadau trydan lleol o ganlyniad i’r gwaith.
Bydd trefniadau rheoli traffig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a bydd unrhyw faterion a godir gan breswylwyr, busnesau neu sefydliadau cymunedol yn cael eu hystyried wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Llyfrgell ddogfennau
Cael gwybod beth sy’n digwydd
Mae prosiectau seilwaith yn gweithio orau pan fydd gwybodaeth yn llifo’r ddwy ffordd.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i’r rhaglen fynd rhagddi, gan gynnwys dyddiadau wedi’u cadarnhau, trefniadau rheoli traffig a diweddariadau’n ymwneud â’r prosiect.
Unwaith y byddant ar gael, byddwn yn uwchlwytho fersiwn Gymraeg o’r testun hwn a’r cyflwyniad.
Os oes gennych gwestiynau, pryderon neu ofynion mynediad penodol, cysylltwch â thîm y prosiect. Mae gwybodaeth leol yn ein helpu i ddeall effeithiau ar y gymuned a nodi cyfleoedd i wella’r ffordd y mae’r gwaith yn cael ei wneud.
Ffôn: 0800 024 1439
E-bost: barmouthreinforcement@spenenquiries.co.uk
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod gan Abermaw rwydwaith trydan sy’n parhau i gefnogi’r gymuned, busnesau lleol a gwasanaethau hanfodol am flynyddoedd lawer i ddod.